“Hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwyllianol cynhenid yr ardal sydd wedi ei chanoli ar Mynydd Gorddu.”

Nod Cynllun Ynni Gwynt Mynydd Gorddu o’r cychwyn ar ddechrau’r 1990au oedd gwireddu prosiect a fyddai’n dod a’r budd mwyaf posib i’r cymunedau lleol.  I wneud hyn daethpwyd a chynifer a phosib o ffermydd i’r cynllun, a bwriadwyd sefydlu cronfa gymunedol a ddaeth yn y pen draw i fodolaeth fel Cronfa Eleri.  Er fod hynny’n arloesol ac anodd i gwmni bychan gyda phrosiect yr oedd angen £9 miliwn  i’w ariannu, llwyddwyd i gadw’r prosiect o dan reolaeth leol Cwmni Trydan Gwynt.  Er cael caniatad cynllunio ym 1991, datblygodd ymgyrch grwp bychan ond effeithiol o bobl yn erbyn y prosiect.  Diolch i ymdrech diflino un wraig yn arbennig a ddaethai i fyw i Gwm Eleri, llesteirwyd y prosiect am gyfnod hir.  A’r cynllun yn wynebu methiant daeth cwmni National Wind Power i’r adwy i’w ariannu a’i adeiladu yn Hydref 1997.  O hyn ymlaen byddai cynllun Mynydd Gorddu a Chwmni Trydan Gwynt yn fenter cydweithredol rhwng National Wind Power (RWE npower renewables, bellach) a chwmni newydd Amgen.  Bwriadwyd yn wreiddiol i’r prosiect roi oddeutu £25,000 y flwyddyn i Gronfa Eleri.  Ond fe waredwyd cymaint o gostau o’r prosiect, oherwydd yr ymgyrch wrthwynebu yn bennaf, nes ei bod yn amheus a fyddai unrhyw gyfraniad sylweddol yn bosib i’r gronfa erbyn hynny.  National Wind Power felly a’i gwnaeth yn bosib i sicrhau £10,000 y flwyddyn, yn codi gyda chwyddiant, am oes y fferm wynt i Gronfa Eleri.

Sefydlwyd Cronfa Eleri yn 1998, gyda £10,000 o bunnoedd y flwyddyn i'w rhannu (i gynyddu yn ôl chwyddiant). Ers hynny, dosranwyd dros £398,000 o gymorth i ddegau o gynlluniau. Er mwyn penderfynu pwy oedd i dderbyn cymorth fe sefydlwyd Pwyllgor Cronfa Eleri a fu'n gweithredu bob blwyddyn ers hynny i drafod y ceisiadau am gymorth ac i awgrymu i gwmni Amgen sut y dylid dosrannu'r arian. Gweinyddir y ceisiadau gan Ysgrifennydd (Mygedol) Cronfa Eleri. Mae hawl gan unrhyw unigolyn, corff neu fudiad wneud cais am gymorth i weithredu prosiectau sy'n unol ag amcanion Y Gronfa - sef “Hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwyllianol cynhenid yr ardal sydd wedi ei chanoli ar Mynydd Gorddu.” Maint Y Gronfa yn 2023 oedd £25,642.96. Mae'r Gronfa yn awr ar gau i geisiadau (cyfnod ar agor: Tachwedd - Rhagfyr bob blwyddyn). Mae manylion llawn ar gael yma.

Ffactorau o bwys i Bwyllgor Cronfa Eleri, wrth gloriannu ceisiadau unigol:

  • Swm y cais a wneir, o ystyried maint y gronfa a natur yr holl geisiadau a wnaed.
  • Manylion unrhyw geisiadau eraill a wnaed am gymorth at yr un cynllun
    (Maint y cais, dyddiadau perthnasol, a.y.y.b.)
  • Amcan y cynllun arfaethedig
  • Cyfraniad at fywyd cymdeithasol yr ardal
  • Cyfraniad at fywyd addysgol yr ardal
  • Cyfraniad at fywyd diwyllianol yr ardal
  • Nifer o bobl neu aelodau fydd yn cael budd o’r cynllun
  • Costau cyfalaf llawn y cynllun (holl fanylion), mewn perthynas â'r swm y gwneir cais amdano gan Gronfa Eleri
  • Manylion holl gostau rhedeg a ragwelir, gan gynnwys sut y bwriedir cyfarfod â’r costau hwnnw. h.y. a yw'n hyfyw?
    (Noder: Ni roddir cefnogaeth ariannol tuag at gostau rhedeg beunyddiol mudiadau neu glybiau. Dim ond mewn cysylltiad â chynlluniau penodedig y gellir ystyried elfen o gefnogaeth tuag at gostau refeniw)

Felly, mae'n bwysig sicrhau fod gwybodaeth mor gyflawn ag sy'n bosib yn cael eu roi ar y ffurflen gais.



For details on how to access the fund please send an e-mail to: ymholiadau@cronfaeleri.com

For translation of these pages please use Google Translate

Ymholiadau: ymholiadau@cronfaeleri.com
Diweddarwyd gan y gwefeistr: 22-01-2024


Hafan Cysylltu Hanes y Gronfa Rheolau'r Gronfa Gwneud cais am gymorth